Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol Tirwedd Hanesyddol o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Gwastadeddau Gwent yng Nghymru, fel y cyfeiriwyd ati yn Rhan 2:1 y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol yng Nghymru, 1998. Mae'r ardal (Cyfeirnod HLW(Gt)2) yn cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwastadeddau Gwent (amrywiol) ac Ardal Gadwraeth Redwick. Mae Tirwedd Hanesyddol Eithriadol Gwastadeddau Gwent yn cynnwys tair
ardal helaeth ac ar wahân o wlyptiroedd llifwaddodol a fflatiau
llaid rhynglanw ar ochr ogleddol moryd afon Hafren a hon yw'r enghraifft
ehangaf a mwyaf arwyddocaol o dirwedd 'a grefftwyd â llaw' yng Nghymru.
Gwaith dyn ydynt oll, wedi'u boddi a'u hadfer o'r môr bob yn ail
ers y cyfnod Rhufeinig. Mae i'r ardaloedd batrymau aneddiadau, systemau
cau a draenio tir nodweddiadol sy'n perthyn i gyfnodau defnydd olynol.
Profwyd bod cryn bosibilrwydd o ddarganfod gwaddodion archeolegol a phaleoamgylcheddol
dwrllawn sydd wedi'u claddu a'u cadw'n dda fel tystiolaeth sy'n goroesi
o dirweddau cynharach. |
|||
Mae'r disgrifiad canlynol, a ddyfynnir o'r Gofrestr o Dirweddau Hanesyddol, yn nodi themâu tirwedd hanesyddol hanfodol yn yr ardal gymeriad hanesyddol. Ardal isel, helaeth o lifwaddod moryd ar ochr ogleddol Moryd Hafren yn Ne-ddwyrain Cymru yw Gwastadeddau Gwent, rhwng Caerdydd ac Afon Rhymni yn y gorllewin a Chas-gwent ar Afon Gwy yn y dwyrain. O ran topograffeg, cymerir bod y gwastadeddau yn ymestyn i'r de o'r gyfuchlin 10m, sef ymyl y ffen, neu lle mae'n cyffwrdd â chraig solet i'r gogledd (sy'n cyd?fynd yn fras â llinell fodern y rheilffordd o'r dwyrain i'r gorllewin rhwng Llundain a Chaerdydd), One am eu bod yn gogwyddo tua'r gogledd oddi wrth y môr maent fel rheol ar eu hisaf lle maent yn ffinio â chraig solet. Mae'r Gwastadeddau yn dirwedd gydag adnoddau cudd amgylcheddol ac archeolegol eithriadol ac amrywiol. Er eu bod yn adnodd gwlyptir pwysig ynddynt eu hunain, yn archeolegol mae'r ardal yn cynnwys amrywiaeth o dirweddau o wahanol ddyddiadau, ac nid oes unman arall lle mae modd gwahaniaethu mor hawdd rhwng y gwahanol gyfnodau. Rheolwyd gweithgareddau dyn yn yr ardal yn y gorffennol gan amrediad llanw enfawr ym moryd Hafren, a welodd amrywiadau mawr a mân o ran uchder ac amrediad y llanw ers y rhewlifiant diwethaf; achoswyd hyn gan amrywiadau yn lefel y tir a'r môr fel ei gilydd. Mae'r gwastadeddau yn adlewyrchu perthynas dyn â'r amgylchiadau hyn dros y deng mil o flynyddoedd a aeth heibio, perthynas a ddatblygodd ond a fu'n aml yn un fregus iawn. Adferwyd wyneb presennol y tir o'r môr ar wahanol adegau yn ystod y cyfnod hanesyddol, fel ei bod bellach yn enghraifft wych o dirwedd 'a grefftwyd â llaw', wedi'i greu'n artiffisial ac yn waith dyn drwyddo draw, gan gadw tystiolaeth glir o batrymau aneddiadau, a systemau cau a draenio tir. Fodd bynnag, oherwydd y cyfnodau cylchol o foddi a llifwaddoli, mae'n dra thebygol hefyd bod yna ddefnydd archeolegol ac amgylcheddol dwrllawn o bwys sy'n perthyn i dirweddau cynharach wedi'i gladdu, gan gynnwys yr ardal o fflatiau llaid llanw y tu hwnt i'r morgloddiau. Felly mae'r Gwastadeddau yn adnodd archeolegol a hanesyddol unigryw o gyfoethog yng Nghymru, ac yn sicr mae iddynt bwysigrwydd ac arwyddocâd rhyngwladol. Y gweithgaredd dynol a gafodd fwyaf o effaith ar dirwedd y gwlyptir fu'r penderfyniad a'r llwyddiant i adfer y gwastadeddau o'r môr, a fu'n digwydd ers y cyfnod Rhufeinig o leiaf. Er bod i'r ardal ddraeniad naturiol, sef yn bennaf Afon Wysg gyda'i moryd llanw eang, Afon Rhymni ac Afon Ebwy, a nant Allteuryn, cafwyd cynlluniau draenio artiffisial ar y rhan fwyaf o'r gwastadeddau, fel bod yr ardal heddiw yn rhwydwaith o sianeli draenio, ffosydd draenio a elwir yn lleol yn 'reens'. Er hynny, erys rhai elfennau o'r rhwydweithiau draenio hyn wedi'u hymgorffori o fewn rhai o'r rhwydweithiau draenio artiffisial i mewn i'r tir o'r morgloddiau, tra rhoddwyd y gorau i elfennau eraill naill ai ar adeg adfer y tir neu'n fwy diweddar. Mae paleosianelau yn arwyddion o hen systemau draenio nas defnyddir bellach, y gellir gweld rhai ohonynt yn glir ar luniau o'r awyr. Ceir y canlynol, felly, yn y dirwedd fel y mae ar hyn o bryd: prif ffosydd sy'n ganlyniad i ddyfrffosydd naturiol; prif ffosydd sy'n hollol artiffisial: morgloddiau yn y mewndir y rhoddwyd y gorau iddynt, ac nad oes sicrwydd yngly n â'u tarddiad; morgloddiau sydd, mae'n debyg, yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg yn wreiddiol; argaeau lle mae'r ffosydd yn cyfarfod â seiliau tanddwr lle maent yn croesi; mannau lle mae'r prif ffosydd yn llifo naill ai i sianeli'r llanw neu i'r foryd ei hun; y pontydd ar draws y ffosydd a'r ffyrdd a adeiladwyd ar yr argloddiau; a heb anghofio patrymau amlwg a nodweddiadol y caeau sy'n perthyn i wahanol gyfnodau o gau'r tir. O ran y dirwedd archeolegol gladdedig, darganfuwyd olion Mesolithig yn Allteuryn, yn gorwedd yn haenau clai'r foryd o dan olyniaeth o waddodion mawn. Hefyd, cafwyd olion traed dynol o'r cyfnod Mesolithig diweddar wedi'u gwasgu i'r Ffurfiant Gwenllw g isaf yn Aber-wysg. Unwaith eto, cael eu cadw yng nghlai'r foryd, dan haen o glai oedd eu hanes. Rhesymol yw tybio y ceir mwy o dystiolaeth bwysig o weithgaredd Mesolithig yn nes i mewn i'r tir, ac yn fwy penodol hwyrach lle mae'r gwastadeddau yn cwrdd a chraig solet tua'r gogledd. Cofnodwyd gweithgaredd o'r Oes Efydd ar wahanol safleoedd ar welyau mawn sych a godwyd, megis yn Chapel Tump. Yn fwy diweddar, y tu allan i'r ardal a ddisgrifir yma, yng Nghastell Caldicot, ceir tystiolaeth fanwl am baleosianeli, adeiladweithiau ar sylfaeni o bolion, estyll llong a chryn dipyn o ddefnydd diwylliannol. Darganfuwyd tystiolaeth o'r Oes Haearn yn yr ardal rynglanw yn Allteuryn gydag adeiladau hirsgwar pren, sarnau a maglau pysgod ar silff o fwyn y cefnffen. Hefyd y tu allan i'r ardal ond yn agos i'r ardal, yn Fferm Barland, Chwilgrug, darganfuwyd adeiladau o gerrig a phren o'r Cyfnod Rhufeinig a chafwyd hyd i weddillion llong Frythonaidd-Rufeinig o ddiwedd y drydedd ganrif, wrth ymyl cilfach lanw wedi'i chladdu. Mae hyn oll yn arwydd clir o'r cyflwr rhyfeddol y cadwyd defnydd archeolegol yn y gwastadeddau. Cynrychiolir y Canol Oesoedd gan nifer fawr o safleoedd Eingl-Normanaidd gan gynnwys cestyll, safleoedd ffosedig, eglwysi, melinau, maenordai a llysoedd. Ceir tystiolaeth am barhad yn y ffurfiau ar ddefnydd tir rhwng y cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol. Caewyd mwy a mwy o gaeau yn yr ardal er bod cryn dipyn yn aros, mor ddiweddar â 1830, yn dir comin heb ei amgáu. Er bod llawer o'r rhwydwaith sylfaenol o ffosydd wedi'i sefydlu cyn y cyfnod hwn, parhawyd i'w ddatblygu a'i addasu, yn enwedig wrth i dir gael ei amgáu. Dros y blynyddoedd diwethaf, cloddiwyd nifer o safleoedd archeolegol
trawiadol ac, ers 1987, hysbyswyd yr awdurdodau o nifer o Safleoedd o
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn y gwastadeddau. Mae'r dirwedd heddiw
yn cynrychioli'r cyfnod archeolegol diweddaraf ac ynddi ceir y cilfachau
ecolegol amrywiol y mae diddordebau cadwraeth natur yn dibynnu arnynt. Astudiaeth o Dirwedd Hanesyddol Gwastadeddau Gwent
|
|||
Ardaloedd Cymeriad ar Wastadedd Caldicot | |||
01 ardal gymeriad ardal arfordirol yr As Fach/Allteuryn:
"tirwedd afreolaidd" gymhleth yn yr ardal arfordirol uwch, yn
cynnwys caeau afreolaidd bach, lonydd dolennog ac aneddiadau gwasgaredig. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|||
02 ardal
gymeriad cefnffen Christchurch/yr As Fach/Whitson: cefnffen isel
sydd â thirwedd "ganolradd" symlach. (Ffoto: GGAT Gwent Levels 042) (Nôl i'r map) Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
03 ardal gymeriad Whitson: pentref
unigryw a gynlluniwyd. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
04 ardal gymeriad Porton: math "canolradd"
anarferol o dirwedd gerllaw'r arfordir. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
05 ardal gymeriad pentref Redwick:
yr anheddiad cnewyllol sydd wedi'i gadw yn y cyflwr gorau ar y Gwastadedd. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
06 ardal gymeriad Redwick/ Magwyr/ Gwndy:
"tirwedd afreolaidd" gymhleth yn cynnwys rhai aneddiadau gwasgaredig. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
07 ardal gymeriad ardal Broadmead o Redwick:
"tirwedd reolaidd" a grëwyd drwy gau caeau agored drwy
ddeddf seneddol. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth
am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
|
|||
08 ardal gymeriad gogledd Redwick:
tirwedd eithaf syml, yn cynnwys ystad Abaty Tyndyrn yn Grangefield. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
09 ardal gymeriad Green Moor: tirwedd
syml yn ymestyn dros gefnffen Redwick/Llandyfenni/Magwyr. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
10 ardal gymeriad Lower Grange ym Magwyr:
un arall o ystadau Tyndyrn, a ddraeniwyd yng nghanol y drydedd ganrif
ar ddeg. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
11 ardal gymeriad Rhostir Caldicot:
"tirwedd reolaidd" a grëwyd drwy gau caeau agored drwy
ddeddf seneddol. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
12 ardal gymeriad ymyl ffen
Caldicot: ardal anarferol o gaeau bach afreolaidd eu siâp
gerllaw ymyl y ffen. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
13 ardal gymeriad St Pierre: tir a
adferwyd o amgylch aber/dyffryn St. Pierre Pill. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
14 ardal gymeriad
Mathern: llain fach o lifwaddod arfordirol. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
Crynodeb o Ardaloedd Cymeriad ar Wastadedd Gwynllwg |
|||
15 ardal gymeriad Dwyrain Llansantffraid
Gwynllwg: "tirwedd afreolaidd" gymhleth yn yr ardal
arfordirol uwch. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
16 ardal gymeriad Gorllewin Llansantffraid
Gwynllwg: tirwedd symlach, wedi'i gosod o fewn fframwaith o elfennau
sydd wedi goroesi o'r dirwedd Rufeinig. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth
am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
|
|||
17 ardal gymeriad Llanbedr: "tirwedd
reolaidd" yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
18 ardal gymeriad Rhymni: "tirwedd
afreolaidd" gymhleth â phatrwm anheddu gwasgaredig. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
19 ardal gymeriad Trowbridge:
tirwedd eithaf syml yn y gefnffen isel. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
20 ardal gymeriad Maerun/Coedcernyw:
tirwedd yn ymestyn dros gefnffen isel i'r gogledd o "ddraen dal dwr"
bwysig.. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
21 ardal gymeriad Maerdy: "tirwedd
reolaidd" yn dyddio o'r cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol yn
ymestyn dros gefnffen isel. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon |
|||
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|